|
Dyma Blaid Cymru. Ffeithiau allweddol ynghylch Plaid Cymru Mae Plaid Cymru yn blaid wleidyddol sydd, ers ei sefydlu yn 1925 wedi bod yn ymgyrchu dros sefydlu democratiaeth genedlaethol i Gymru. Mae'n blaid wleidyddol ddemocrataidd sy'n dymuno gweld newid cyfansoddiadol trwy ddulliau cyfansoddiadol. Mae'n croesawu cefnogaeth ac aelodau newydd o blith pawb sy'n byw yng Nghymru - beth bynnag fo'u hiaith, lliw, neu gred. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth oddi wrth bobl led-led y byd sydd â diddordeb yng Nghymru. Plaid Cymru yw'r unig blaid wleidyddol sylweddol sydd yn seiliedig yng Nghymru ac yn bodoli er gwasanaethu Cymru. Mae ei dylanwad yn tyfu a felly hefyd ei haelodaeth. Plaid Cymru the Party of Wales yw'r blaid wleidyddol ail gryfaf yng Nghymru, y tu ôl i Lafur ond o flaen y Ceidwadwyr, y Rhyddfrydwyr a'r pleidiau llai eraill. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgyrchu dros Gymru hyderus, fodern, allblyg, sy'n barod ar gyfer yr ugeinfed ganrif ar hugain, yna darllenwch ymlaen .. Amcanion Plaid Cymru Amcan Plaid Cymru yw gwella bywyd yng Nghymru er budd holl bobl Cymru trwy:
Dulliau Plaid Cymru o weithredu Mae Plaid Cymru yn gweithio tuag at gyrraedd yr amcanion hyn trwy ddulliau democrataidd, heddychlon a chyfansoddiadol wleidyddol. Golyga hyn ymgyrchoedd etholiadol, er mwyn ennill dylanwad trwy'r blwch pleidleisio ar ein hawdurdodau lleol, yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn San Steffan ac yn y Senedd Ewropeaidd. Mae'r blaid hefyd yn annog ei haelodau i chwarae rhan allweddol yn eu cymunedau - naill ai o fewn grwpiau dinesig, yn eu broydd, neu yn eu man gwaith. Mae Plaid Cymru hefyd yn arwain ymgyrchoedd penodol - er enghraifft i ddiogelu swyddi, i ddiogelu ein hamgylchfyd, dros drethi dðr tecach ac mewn cyd-weithrediad â grwpiau penodol megis pobl ifanc, pensiynwyr, y mudiad ysgolion Cymraeg, hawliau i bobl anabl a chydraddoldeb rhywiol. Mae'r blaid hefyd yn ymgyrchu'n gyson i sicrhau adnoddau gwell i Gymru - gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus well, ysgolion gwell, ysbytai cymunedol newydd neu adnoddau hamdden neu ddiwylliannol newydd. Buddiannau pob dydd pobl Cymru yw consýrn Plaid Cymru. Y spectrwm gwleidyddol Mae Plaid Cymru yn adlewyrchu traddodiadau a safonau cynhenid Cymru ac wedi'i hymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ar gyfer holl bobl Cymru. Mae Plaid Cymru'n credu'n gryf yn amrywiaeth ein cymunedau, a hawl pobl, yn unigolion ac yn deuluoedd yn ogystal â chymunedau lleol, i gymryd cynifer o benderfyniadau drostynt eu hunain ag sy'n bosibl. Hanfod athroniaeth y blaid yw derbyn mwy o gyfrifoldeb dros redeg ein bywydau pob dydd, yn hytrach na disgwyl i Lundain neu Frwsel wneud pob peth drosom. Tra bod Plaid Cymru yn cydnabod yr angen dros sector gyhoeddus fywiog ac effeithiol, mae hefyd yn cydnabod rôl yr unigolyn yn ogystal â phwysigrwydd gweithredu ar y cyd. Mae'r blaid wedi ei hymroddi i heddwch ac i ddileu'r bygythiad o ryfel niwclear. Crêd y blaid y dylai Cymru gael llais uniongyrchol o fewn cyrff rhyng-wladol er mwyn hybu delfrydau o'r fath. Mae Plaid Cymru hefyd yn cydnabod cyfrifoldeb Cymru tuag at y rhai anghenus yn ein byd ac yn awyddus iddi chwarae ei rhan wrth adeiladu cyfundrefn fyd-eang decach. Yn bennaf oll mae Plaid Cymru yn credu y dylid cymryd penderfyniadau mor agos â phosib at y bobl a effeithir gan y penderfyniad, ac yn cydnabod bod sofraniaeth a chyfreithlondeb yn deillio oddi wrth y bobl eu hunain o fewn eu cymunedau lleol yn hytrach nac oddi wrth addurniadau'r wladwriaeth. Mae Plaid Cymru yn cydnabod yr angen i gael cyd-bwysedd tecach rhwng y rhywiau ac yn awyddus i weld menywod a dynion yn cyrraedd eu llawn botensial fel unigolion ac yn eu cymunedau. Mae'r Blaid yn cydnabod hefyd bwysigrwydd cynaladwyaeth amgylcheddol, ac yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu ein hadnoddau drwy osgoi llygredd fel ffactor fwy fwy bwysig wrth benderfynu ar bolisi cyhoeddus dros y degawdau i ddod. Yn ystod ymgyrch refferendwm datganoli 1997 derbyniodd Plaid Cymru ei bod hi'n bwysig cyd-weithio gyda phleidiau eraill er budd Cymru. Newid pethau er gwell er budd holl bobl Cymru sydd wrth wraidd athroniaeth Plaid Cymru yn hytrach na dogma neu agwedd ddethol. Nid yw'r dyheadau hyn yn gweddu'n esmwyth gyda delwedd mwy arferol gwleidyddiaeth dwy blaid. Dyma un nodwedd sy'n gwneud Plaid Cymru mor wahanol, ac yn ein gwneud y blaid gymaint yn fwy perthnasol i Gymru'r unfed ganrif ar hugain. Sut mae Plaid Cymru yn gweithio? Mae gan Blaid Cymru rhyw 10,000 o aelodau a 200 o ganghennau led-led Cymru. Mae ganddi ganghennau yn Lloegr, ar dir mawr Ewrop, Gogledd America a hyd yn oed yn Awstralia. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un dros 14 mlwydd oed a cheir Mudiad Ieuenctid i'r rhai dan 28 mlwydd oed. Cynrychiolir Plaid Cymru yn y rhelyw o golegau Cymru. Daw canghennau at ei gilydd i lunio rhanbarthau sy'n cyfateb â ffiniau etholaethau seneddol. Prif gorff gwneud penderfyniadau'r blaid yw'r Gynhadledd Flynyddol sy'n penderfynu ar bolisïau ac yn cynnwys cynrychiolydd o bob cangen. Rhwng cynhadleddau, perderfynir bolisïau gan y Cyngor Cenedlaethol, sydd â chynrychiolwyr canghennau a rhanbarthau arno sy'n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn. Rheolir y blaid gan bwyllgor Gwaith a etholir yn y Gynhadledd Flynyddol. Swyddi etholedig uchaf y blaid yw'r Llywydd a'r Cadeirydd Cenedlaethol. Ceir hefyd Is-lywydd, deg Cydlynydd Rhanbarthol a deg cyfarwyddydd gweithredol. Lleolir pencadlys Plaid Cymru yn 18 Park Grove, yng nghanol dinas Caerdydd ac arweinir y staff cyflogedig gan y Prif Weithredwr. Mae gan y blaid nifer o drefnyddion mewn amryw rannau o Gymru a swyddfeydd lleol mewn trefi led-led y genedl. Mae gan Blaid Cymru hefyd grwpiau diddordeb penodol o'i mewn megis Adran y Menywod, Adran Ieuenctid, Ffederasiwn Myfyrwyr ac adran i Undebwyr Llafur.
Mae Plaid Cymru yn cydnabod bod Cymru yn wlad ddwy-ieithog ac yn cydnabod y Gymraeg a'r Saesneg yn llawn ac yn gyfartal yng ngweithredu mewnol y Blaid ac yng Nghymru ben-baladr. Mae aelodaeth o Blaid Cymru yn agored i bobl sy'n siarad pa bynnag iaith. Mae Plaid Cymru hefyd yn cydnabod priod le ieithoedd lleiafrifol o fewn Cymru. Gweithgareddau Canghennau Y ddolen gyswllt lleol i'r rhelyw o aelodau Plaid Cymru yw'r gangen leol. Trwy'r gangen leol gallai aelodau gymryd rhan gyflawn yng ngwaith y blaid yn eu cymuned leol a sicrhau fod eu dymuniadau a'u dyheadau yn cael eu cynrychioli o fewn strwythur cymryd penderfyniadau'r blaid. Y nifer lleiaf o aelodau ar gyfer pob cangen yw deg aelod, ond mae rhai â chynifer â 50 o aelodau. Trefnir canghennau yn lleol trwy bwyllgor o swyddogion a etholir, a maent yn cyfarfod yn fisol. Canghennau Plaid Cymru yw'r fforwm i godi materion o gonsýrn lleol yn ogystal â mynegi barn ar faterion cenedlaethol a materion cyffredinol. Mae canghennau yn codi pres hefyd ar gyfer gwaith cyffredinol y blaid. Maent yn arbennig o weithgar ar adeg etholiad - boed etholiadau lleol, y Cynulliad Cenedlaethol, San Steffan ac etholiadau Ewropeaidd. Cyllido Plaid Cymru Mae Plaid Cymru bron yn gwbl ddibynnol ar ei changhennau a'i haelodau ar gyfer ei chyllido. Nid yw'n derbyn cyllid uniongyrchol oddi wrth ddiwydianwyr mawr nac ychwaith unrhyw lefi oddi wrth undebau llafur. Mae'n dibynnu felly ar roddion a gweithgareddau codi pres gan y canghennau, ac oherwydd hyny, mae'I dwylaw'n rhydd o ddylanwad unrhyw garfan mawr. Mae'r gost o gynnal gweithgareddau gwleidyddol Plaid Cymru yn flynyddol rhwng £250,000 a £500,000. Nod gyntaf Plaid Cymru: Cynulliad Cenedlaethol llwyddiannus Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yw'r haen Gymreig o lywodraeth - ac mae'n rheoli'r rhelyw o gyfrifoldebau domestig - iechyd, addysg, tai, datblygiad economaidd, twristiaeth, chwaraeon a'i celfyddydau. Cyn dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol, roedd y cyfrifoldeb dros y rhain i gyd yn nwylo un gwleidydd - Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Am y rhan fwyaf o ddegawd ni lenwid y swydd gan Aelod Seneddol o etholaeth yng Nghymru hyd yn oed. Etholir y Cynulliad Cenedlaethol yn ddemocrataidd, ac mae Plaid Cymru am iddo lwyddo yn ei feysydd cyfrifoldeb. Mewn amser, a gyda chefnogaeth pobl Cymru, mae Plaid Cymru am weld Senedd i Gymru gyda gallu deddfwriaethol primaidd a'r gallu i amrywio trethi - tebyg i'r galluoedd sydd gan y Senedd yr Alban. Buasai Plaid Cymru hefyd yn cefnogi gweithredu hunan-lywodraeth gylawn o fewn yr Undeb Ewropeaidd pe bai pobl Cymru yn penderfynu, trwy refferendwm, taw dyma'r hyn yr oeddent eisiau ei weld yn digwydd. Byddai pobl Cymru yn penderfynu drwy Refferendwm ar wahân pa un ai'r Teulu Brenhinol ynteu Arlywydd etholedig fyddai pennaeth y wladwriaeth.
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos fod yr incwm o drethiant yng Nghymru (Treth Incwm, TAW ayb) yn fwy na digon i gynnal gwariant cyhoeddus ar y lefel bresennol. Pe bai'r cyllid trethiannol a godir yng Nghymru yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Gymreig gellid cynnal y patrwm gwariant presennol heb godi trethiant. Eto i gyd, mater i Senedd Gymreig etholedig fuasai penderfynu ar y blaenoriaethau yn nhermau gwariant a gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd, nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y gallu hwn a mae gwariant yng Nghymru yn ddibynnol o hyd ar y grant bloc a dderbynnir oddi wrth y Trysorlys Prydeinig. Mae Plaid Cymru yn cydnabod cyfyngiadau'r sefyllfa hon ond eto i gyd yn gwbl ymrwymedig i ddefnyddio'r cyllid a derbynnir yn y modd mwyaf effeithiol er budd holl bobl Cymru. Cymru ac Ewrop Cred Plaid Cymru the Party of Wales y dylai Cymru gael cynrychiolaeth lawn o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwledydd llai megis Denmarc, Iwerddon, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg wedi cael manteision amgenach na Chymru oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n afresymol nad oes gan Gymru ei llais uniongyrchol yng nghoridorau dylanwadol Brwsel a Strasbourg. Swm a sylwedd hyn yw fod Cymru yn colli allan ar gyfleoedd pwysig ym maes amaeth, diwydiant, masnach a llu o feysydd eraill oherwydd ein bod yn parhau i fod wedi ein hynysu ar y cyrion yn nhermau Ewropeaidd. Mae Iwerddon er enghraifft yn ddiweddar wedi bod yn derbyn £637 y pen yn flynyddol mewn grantiau Ewropeaidd tra bod Cymru wedi bod yn cael £39 y person yn flynyddol. Mae hyn wedi digwydd er gwaetha'r ffaith fod cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Iwerddon wedi hen basio un Cymru a yn ddiweddar hyd yn oed wedi goddiweddyd un Prydain. Tuag at Gymru Ddemocrataidd Yn groes i'r mythau a hybir gan elynion Plaid Cymru, nid yw'r blaid lyn argymell 'ymneilltuo'. O fewn yr Ewrop Unedig sydd wrthi'n datblygu ar hyn o bryd, bydd symudiad di-lyffethair o bobl, nwyddau a chyllid yn union fel ag ar hyn o bryd rhwng gwledydd Prydain. Buasai hwnnw'n parhau gyda Phlaid Cymru yn Llywodraethu. Yr 'ymneilltuwyr' go iawn ar hyn o bryd yw'r rhai sy'n dymuno gweld Prydain yn troi'r cloc yn ôl i ddyddiau'r Ymerodraeth gan dorri Prydain i ffwrdd oddi ar dir mawr Ewrop - gweithred a fuasai'n drychinebus i'r cannoedd o gwmnïau a ddenwyd i fuddsoddi yng Nghymru dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae'r byd yn rhy fach i gynnal y feddylfryd "little Englander" honno. Tila hefyd yw'r cyhuddiad ein bod eisiau gweld "Cymru ar gyfer y Cymry". Mae Plaid Cymru yn cydnabod fod pawb sy'n byw yng Nghymru yn ddinasyddion Cymreig beth bynnag fo'u hiaith, eu lliw neu eu cred. O fewn Cymru hunan-lywodraethol bydd pawb yn ddinasyddion llawn a chyfartal. Mae Plaid Cymru yn condemnio hiliaeth yn ddiamodol. Yn olaf, mae Plaid Cymru yn cydnabod fod Cymru yn ddwy-ieithog ac y byddai i'r ddwy iaith statws gyfartal o fewn Cymru hunan-lywodraethol. Rydym yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg a'i diwylliant. Rydym eisiau i blant Cymru gael y cyfle i fwynhau'r diwylliant hwnnw. I'r un graddau rydym hefyd yn cydnabod fod y Saesneg hefyd yn gyfrwng i hybu diwylliant Cymru yn ogystal â bod yn gyfrwng cyfathrebu hanfodol ym myd diwydiant a busnes. Rydym ni yng Nghymru yn cael y gorau o ddau fyd trwy allu siarad dwy iaith - yr allwedd i'n diwylliant a'n treftadaeth a chyfrwng cyfathrebu rhyngwladol. Ac i'r graddau y bydd medru dwy iaith yn gymorth i bobl ifanc Cymru fedru dysgu trydedd neu hyd yn oed bedwaredd iaith yna gorau oll - bydd hynny'n agor drysau eraill a fydd yn gyfrwng i gyfoethogi eu bywydau ymhellach. Polisiau Manwl Mae gan Blaid Cymru raglen lawn o bolisiau manwl a luniwyd i fynd i'r afael â her bywyd pob dydd yn y Gymru gyfoes. Hi yw'r unig blaid sydd â'i rhaglen wleidyddol wedi'i gogwyddo'n benodol tuag at anghenion Cymru. Mae'r amcanion gwleidyddol hyn yn cynnwys:
Y Cam Nesaf i Chi ? Pe hoffech wybod rhagor am Blaid Cymru - The Party of Wales, hoffech fwy o fanylion ar bolisi y blaid ar unrhyw bwnc penodol, neu hoffech ymuno â'r blaid, ysgrifennwch at Yr Ysgrifennydd, Cangen Llangollen a'r Cylch, Plaid Cymru - The Party of Wales, Henllys, Berwyn, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8AL. Yn yr her gyffrous tu hwnt o adeiladu'r Gymru Newydd, mae lle a thasg i bawb!
|